Clefyd Coeliag a Dermatitis Herpetiformis
Mae clefyd coeliag yn effeithio ar eich coluddyn bach.
Mae cael clefyd coeliag yn golygu bod eich corff yn gweld gluten, sydd i’w gael mewn gwenith, barlys, rhyg a cheirch, fel gelyn drwg ac mae felly yn ceisio ei ddinistrio!
Beth mae hyn yn ei olygu yw mai’r corff yn niweidio’r pigynau bach yn eich coluddyn bach, ac yn eu gwneud yn llyfn. Felly dydi’r coluddyn bach ddim yn gallu gwneud ei waith yn iawn o amsugno bwyd. Oherwydd hyn mae posib cael symptomau fel blinder a stumog wedi ei chwyddo.
Mae Dermatitis Herpetiformis yn debyg i glefyd coeliag, ond mae’n effeithio’r croen. Mae hyn yn golygu os oes ganddoch Dermatitis Herpetiformis ac rydych yn bwyta gluten bydd yn cael effaith drwg ar eich croen.
Ond mae newyddion da………………
Trwy osgoi bwyd sy’n cynnwys gluten byddech yn teimlo yn well mewn dim o amser.
Mae cael clefyd coeliag yn golygu bod rhaid bod yn ofalus gyda bwyd i wneud yn siŵr nad ydynt yn cynnwys gluten. Mae cael ddiet ddi-gluten ac iach yn golygu y bydd hi’n bosib byw bywyd llawn ac iach heb fod clefyd coeliag yn eich effeithio.
Am fwy o wybodaeth ddefnyddiol ar y clefyd pan na wnewch chi fynd ar y wefan wych yma:
Y broses o gael eich adnabod fel person gyda chlefyd coeliag:
- Yn gyntaf rydych yn mynd at y meddyg yn teimlo’n sâl, efallai nad ydych yn bwyta’n iawn, yn teimlo wedi blino, neu yn cael poen yn y bol. Bydd y doctor yn cymryd prawf bach o’ch gwaed, ac wedyn bydd rhaid aros am y canlyniadau.
- Os bydd y prawf gwaed yn dod ‘nôl yn bositif, yna bydd angen mynd i’r ysbyty am driniaeth fach (endoscopy). Bydd y driniaeth yma yn cymryd sampl bach o’ch coluddyn bach, a fydd wedyn yn cael ei astudio o dan ficrosgop. Am fwy o wybodaeth am y driniaeth yma ewch ar y wefan www.childrenfirst.nhs.uk
- Ar ôl cael gwybod yn sicr eich bod gyda chlefyd coeliag byddwch yn cael mynd i weld dietegydd, fydd yn esbonio beth yr ydych yn cael a ddim yn cael bwyta. Mae’n help mawr i ymuno gyda Coeliac UK, sydd yn rhoi llawer o wybodaeth ddefnyddiol, ac yn creu llyfryn bach o’r diodydd a bwydydd bendigedig sydd yn saff i’w bwyta. Mae hefyd uned leol o Coeliac UK lle allwch chi gyfarfod pobl arall yn eich ardal gyda clefyd coeliag. Pam na ewch chi ar y wefan a gweld beth sydd ganddynt i’w gynnig yn www.coeliacuk.co.uk
Beth sy’n bwysig yw gwybod beth yr ydych yn gallu a ddim yn gallu eu bwyta, dyma flas, felly canolbwyntiwch!
DDIM yn cael bwyta
- Gwenith
- Barlys
- Rhyg
- Ceirch, mae llawer o ddadlau ynglŷn â bwyta ceirch, mae rhai yn dweud eu bod yn saff, a lleill ddim, felly’r peth gorau i wneud yw cadw draw.
YN cael bwyta
- Unrhyw beth naturiol (heblaw am y bwydydd uwchben!)
- Tatws
- Reis
- Llysiau a ffrwythau
- Cig a physgod ffres plaen
- Cynnyrch llaeth naturiol
Gwyliwch allan am
- Prydau cyflym
- Unrhyw beth wedi ei brosesu
Mae hi’n bwysig i ddarllen labelai bwyd i wneud yn siŵr eu bod yn ddi-gluten, mae llawer yn nodi arnynt mewn blwch ‘Allergy Advice’.
Mae hi yn bwysig iawn i beidio a bwyta gluten, gan ei fod yn gallu eich gwnued yn sâl iawn, felly byddwch yn ofalus.

Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech yn edrych amdano. Os na wnaethoch, yna teimlwch yn gwbl rydd i gysylltu â ni.
