Iechyd Da
Bwyta
Mae’n bwysig bwyta’n iach bob amser, ond i rhai gyda chlefyd coeliag mae’n bwysicach byth. Paid a phoeni, dydi hyn ddim yn golygu bwyta bwyd cwningod trwy’r amser, mae llawer o fwydydd iach a blasus i’w trio.
I gael diet iach mae rhaid cael digon o garbohydradau, protein ac ychydig o fraster. Mae hyn yn golygu llawer o datws a phasta ddi-gluten, digon o gig a physgod ffres ac ychydig o fenyn a braster eraill. Mae’n bwysig i bobl gyda chlefyd coeliag i gael digon o gynnyrch llaeth, mae’n bwysig gan ei fod yn rhoi digon o galsiwm i gael esgyrn cryf ac mae’n ffordd arall o gael protein. Mae cynnyrch llaeth yn golygu llaeth(!), iogwrt, caws, hufen ac ati. Rhaid hefyd cynwys digon o lysiau a ffrwythau blasus er mwyn cael digon o fitaminau a mineralau i mewn i’r corff.
Canllawiau am ddiet iach |
|
Gall bwydydd brasterog a llawn siwgr cael eu bwyta mewn diet iach, ond ddim rhy aml, a dim gormod ohono!
Mae cael diet iach yn golygu y bydd eich corff yn cael digon o’r bwydydd iawn ac y byddech chi yn teimlo llawn egni a hwyl.
Ymarfer Corff
Ymarfer corff yw un o’n hoff bethau ni, ac mae’n ffordd dda o gadw’n iach. Mae gan bawb un math o chwaraeon y maent yn ei hoffi, beth bynnag ydyw. I gadw’n heini rhaid ymarfer corff bob dydd, gall hyn golygu rhedeg rownd yr ardd gyda ffrindiau, neu chwarae chwaraeon fel pel-droed mewn clwb lleol. Mae ymarfer corff yn ffordd dda o ddod i nabod ffrindiau newydd, neu dreulio amser gyda’r teulu. Pam na wnewch chi berswadio eich rhieni i fynd a chi i’r ganolfan hamdden leol i weld beth sydd ar gael?

Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech yn edrych amdano. Os na wnaethoch, yna teimlwch yn gwbl rydd i gysylltu â ni.
